Duncan Brown

Doctor y pentref oedd y cyntaf i gael teledu ac mae'r cyfwelai'n cofio eistedd ar y pafin gyda'i ffrind yn aros i weld y teledu'n cyrraedd ei dy. Dywed iddo ddisgwyl gweld llun yn dod allan o'r erial ar y to. Pan ddaeth teledu i'w gartref roedd ei rieni'n meddwl bod ITV yn 'goman' ac yn gweld rhaglenni Americanaidd yn ddylanwad drwg. Cafodd ei fagu mewn ty Saesneg ei iaith a symudodd i fyw i Loegr, ond wedi iddo symud yn ol i Gymru dechreuodd deimlo llawer iawn yn fwy Cymreig. Roedd wedi penderfynu magu ei blant ei hun heb deledu ond pan lansiwyd S4C prynodd deledu unwaith eto. S4C wedi gwneud argraff fawr ar hyd y blynyddoedd ac wedi cael effaith bellach ar ei genedligrwydd. Mae'n falch fod talent Cymru yn cael ei brofi a'i arddangos.Dywed fod rhaglenni gwyddonol a natur wedi bod yn bwysig.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 552
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 713
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 559
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 607
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 748
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi