Arial Thomas

Ysgrifennodd y cyfwelai erthygl am deledu i gylchgrawn Lleufer ym 1949, penderfynodd logi teledu ei hun ym 1966 pan oedd ei ferch yn sal. Ond aros gwnaeth y teledu wedi ei gwellhad am bedair blynedd cyn iddo gael digon ohono. Meddwl bod byw drwy'r rhyfel yn gyfrifol am ei angen i wrando ar fwletinau newyddion, arfer sy'n parhau hyd heddiw. Meddwl ei fod yn rhyfeddol fod cyn lleied o sylw wedi ei roi ar y teledu i foddi Cwm Tryweryn. Aberfan wedi dangos bod y Cymry'n arbennig o agos a'i fod wedi effeithio ar y wlad i gyd.Cafodd sioc o glywed canlyniad Refferendwm 97, wedi aros ar ei draed ar ei ben ei hun. Gwybod beth fyddai'r canlyniad yn 79, gan fod y papurau newydd i gyd yn cefnogi'r ymgyrch Na.Anwybyddodd yr arwisgo'n llwyr, 'dim byd i wneud efo ni'. Cofio Owen Edwards ar noson lansio S4C, teimlo fod y sianel wedi cael mwy o effaith ar Gymreictod yn y De gan fod cenedligrwydd Cymreig yn gryf yn y Gogledd beth bynnag.Teimlo bod plismyn wedi cael eu prynu gan Thatcher yn ystod Streic y Glowyr, gwelodd y streic fel un Prydeinig oherwydd bod Arthur Scargill yn bersonoliaeth mor gryf ac amlwg.

Mae 9 eitem yn y casgliad

  • 511
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 479
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 774
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 556
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 631
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 564
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 881
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 681
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 681
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi