Huw Edwards
Dywed y cyfwelai fod y teledu cyntaf yn ddodrefnyn yn ei hun, prynwyd o Bennets-Williams yng Nghaernarfon. Roeddynt yn edrych ar bob rhaglen pan gawsant deledu gyntaf. Cofio cenedlaetholwyr yn llwyddo i ddarlledu negeseuon gwleidyddol ar ol i ddarlledu cyffredin orffen, eu lleisiau i'w clywed drwy'r teledu. Teimla'r cyfwelai fod Tryweryn heb gael y sylw a ddylai ar y teledu. Cafodd effaith gref ar ei Gymreictod ac mi roedd ei gysgod ar seremoni'r Arwisgiad ym 1969.Byddai'n gwylio gemau rygbi adref efo'r plant yn bennaf.Roedd yn teimlo bod y darlledu yn ystod Streic y Glowyr wedi dangos ochr ddu'r streic, teimlo bod penaethiaid yr undeb yn cael gormod o ddylanwad ar y glowyr ac mai nhw oedd yn dioddef yn y pen draw.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment