Dafydd Frankl Jones

Mae'r cyfwelai yn cofio gwylio pel-droed yn nhai cymdogion gan fod nifer heb deledu yn ystod ei blentyndod. Ddim yn cofio gweld llawer o hanes Tryweryn ar y teledu, oherwydd bod llawer o bobl heb deledu o hyd ac ychydig iawn o ddarlledu Cymraeg oedd bryd hynny. Bu'r darlledu o Aberfan yn ffordd o dynnu sylw at rannau o Gymru ac i wneud i bobl feddwl am effaith diwydiant ar y wlad. Heb gymryd llawer o sylw o'r Arwisgiad ei hun. Roedd yn teimlo nad oedd y protestio wedi cael llawer o sylw ar y teledu ond eto diffyg darlledu Cymraeg oedd efallai'n gyfrifol am hyn.Wedi mynychu gemau rygbi yn y 70au. Gwylio ar y teledu yn gallu bod yn unig ar eich pen eich hun, mi fyddai defodau wrth weld gem yn y stadiwm - cyfarfod cyn a wedyn i drin a thrafod. Mae'r cyfwelai'n cofio dadleuon ar y teledu cyn Refferendwm 79 a bod yn ymwybodol o ddylanwad personoliaethau cryf fel Neil Kinnock. Meddwl bod marwolaeth Diana wedi cael effaith ar Refferendwm 97 a bod defodau brenhinol yn codi Prydeindod ym mhobl. Mi roedd y tensiwn yn ormod i aros ar ei draed i weld y canlyniadau- mi roedd yna ansicrwydd. Roedd y bore wedyn yn gofiadwy iawn.Lansiad S4C yn un o'r digwyddiadau mawr, dim sianel debyg yn Lloegr ac wedi effeithio ar Gymreictod. Dywed fod nifer yn Wrecsam yn dewis derbyn signal teledu o ganolbarth Lloegr.Roedd yn teimlo bod y glowyr yn cael eu portreadu fel grwp oedd yn mynd i geisio amddiffyn buddiannau'u hunain dros y wlad yn gyffredinol.

Mae 9 eitem yn y casgliad

  • 347
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 663
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 703
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 597
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 496
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 532
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 497
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 427
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 573
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi