Aled Lewis Evans

Dywed y cyfwelai fod rhaglenni nos Sadwrn yn bwysig pan oedd yn ifanc, ac mai dramau a thrychinebau oedd yn gwneud yr argraff fwyaf. Mae ganddo gof o drychineb Aberfan pan oedd yn blentyn, deallodd wedyn mai dyma'r trychineb cyntaf i'w deledu. Mae'n cofio'r Arwisgiad a dywed ei fod heb ddeall yr arwyddocad ar y pryd. Gwyliodd noson ganlyniadau Refferendwm 97 wrth y llyfrgell yn Wrecsam, roedd sgrin fawr yn dangos cyngerdd o Gaerdydd. Arhosodd yn y ty i wylio lansiad S4C a theimlo'n falch fod pob dim wedi mynd yn iawn a dywed ei fod yn cael teimlad o berthyn oherwydd bod wynebau cyfarwydd ar y sianel. Wrth drafod Streic y Glowyr dywed fod rhywun yn fwy tebygol o dderbyn y cyfryngau ar y pryd ond byddai'n fwy dadansoddol wedyn.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 310
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 684
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 346
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 431
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 355
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 444
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi