Irene Roberts
Irene Roberts
Roedd y cyfwelai'n byw yn Llundain pan ddigwyddodd trychineb Aberfan, dywed byddai'r digwyddiad wedi effeithio arni fwy pe byddai'n byw yng Nghymru ar y pryd. Bu'n aelod o gor Cymdeithas Cymry Llundain a bu'n perfformio yn y castell ar ddiwrnod yr Arwisgiad yng Nghaernarfon. Cofio cael siom wrth wylio'r teledu wedyn nad oedd y gerddoriaeth wedi cael mwy o sylw yn y darllediad.Cofio poeni am ddiogelwch ar y diwrnod. Wedi mynd i lawer o gemau rygbi yn y 70au, dywed nad oes unrhyw beth yn cymharu a'r awyrgylch mewn gem rygbi. Heb ddilyn dadleuon Datganoli yn arbennig. Mae'n gwylio rhaglenni cerddorol ar S4C ac yn dilyn Pobol y Cwm.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment