Megan Davies
Prynodd deulu'r cyfwelai deledu ar gyfer y Coroni, byddai ei mam yn gwahodd pobl draw i wylio rhai pethau, yn enwedig digwyddiadau brenhinol. Mae'n mwynhau gwylio opera ar y teledu, dywed fod teledu wedi cyflwyno opera i bobl gyffredin. Mae'n cofio crandrwydd y Coroni, a mwynhau gweld y bensaerniaeth, roeddynt yn teimlo eu bod yn cymryd rhan eu hunain. Cofio Tryweryn yn cael ei drafod yn y capel a rhai pethau ar y radio ond heb ei weld ar y teledu. Dywed fod yr Arwisgiad yn ddiwrnod balch i Gymru, wedi ei wylio adref ar deledu lliw. Teulu i gyd wedi edrych ac yn nabod rhai pobl oedd yn cymryd rhan ac felly'n gwybod beth i ddisgwyl. Heb ddilyn dadleuon Datganoli yn ofalus iawn. Er nad yw'n siarad Cymraeg ei hun mae'n mwynhau gwylio rhaglenni Cymraeg ac mae'n teimlo bod y sianel yn bwysig. Nid yw'n cefnogi streiciau yn gyffredinol ond roedd ganddi gydymdeimlad a'r glowyr yn ystod y streic. Er mai streic Brydeinig oedd hi roedd yr elfen Gymreig yn amlwg iawn hefyd.