Skip to main content

Jill Jones

Cafodd y cyfwelai deledu yn y cartref ym 1949, dywed mai yn y 50au y dechreuodd ddangos diddordeb a gwylio'r newyddion. Mae'n trafod nifer o raglenni mae'n cofio o'r cyfnod yna. Wedi gwylio'r Coroni fel teulu, roeddent yn byw yn Llundain ar y pryd ac roedd y digwyddiad yn teimlo'n agos. Roedd hi'n dilyn hanes Tryweryn mewn papurau newydd.Roedd ei gwr yn gweithio tramor yn U.D.A. ac roedd rhyfel Vietnam yn cael sylw pawb. Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn yr Arwisgiad gan ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol. Byddai'n gwrando ar gemau rygbi ar y radio wrth smwddio ac yn cyffroi pob tro. Methu cael S4C pan lansiwyd y sianel oherwydd bod mynydd Minera rhyngddyn nhw a'r mast. Cofio mynd i weld rhywfaint o'r sianel yn nhy ffrind.Roedd tramor eto yn ystod Streic y Glowyr ac wedi gweld y newyddion wedi'u haddasu ar gyfer cynulleidfa ryngwladol.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment