Skip to main content

cac00540

Mae'r cyfwelai yma'n cofio am y teledu mawr gyda'i sgrin fach a gafodd y teulu yn y 50au. Trafodir Aberfan a'i theori fod tipyn o waith golygu i fwriad arbennig yn digwydd wrth ddarlledu unrhyw beth. Mae'n trafod agwedd gwrth-Gymreig pobl Caerdydd yn y 60au. Siarada am yr Arwisgiad a'i gwrthwynebiad i'r achlysur er syndod i'w ffrindiau yn yr ysgol uwchradd. Cyfeiria at wylio gemau Rygbi mewn tafarndai ond taw'r cymdeithasu yn sgil y gem yn hytrach na'r gem ei hun oedd bwysicaf. Wrth son am Streic y Glowyr mae'n dweud nad yr hyn oedd yn digwydd yn y Rhondda oedd yn cael ei gyfleu ar y teledu, ac mae'n trafod effaith andwyol Arthur Scargill.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment