Dilwyn/Eileen Morgan

Mae'r par yma'n trafod gweld teledu mewn siop yn Llundain yn y 40au. Pan gawsant gartref ei hunain cael oergell oedd y flaenoriaeth ac wedyn teledu. Trafodant drychineb Aberfan ac ymweliad Harold Wilson ac maent yn gresynu at ddefnydd y llywodraeth Lafur o'r arian a ddaeth i mewn oddi wrth y cyhoedd gyda'r bwriad o helpu pobl y pentref. Sonir am y gronfa gan ddweud bod darllediadau'r teledu wedi sicrhau bod arian yn llifo i mewn. Trafodir hefyd ddamweiniau eraill a ddigwyddodd yn y Rhondda ond pwysleisir mor wahanol oedd pobl yn teimlo am Aberfan oherwydd mai plant a gollwyd yn bennaf. Mae'r ddau hefyd yn son am ei gwahanol brofiadau o'r Coroni - y gwr yn y lluoedd arfog ac felly yn rhan o'r digwyddiad yn Llundain, a'r wraig yn gwylio'r teledu yn edrych allan amdano. Sonia am ei balchder wrth wylio'r Coroni ar y teledu.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 673
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 889
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,245
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,285
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi