Margaret Griffiths

Bu rhaid i gapel y cyfwelai yma newid amser gwasanaethau'r capel oherwydd dyfodiad teledu. Cofia ei balchder o wylio seremoni'r Arwisgo a'r tensiwn yn sgil ofnau y byddai protestwyr yn amharu ar y diwrnod. Trafoda'r berthynas rhwng pobl y Rhondda a'r Blaid Lafur. Mae'n trafod ei dicter am foddi Tryweryn ond yn amau faint o effaith a gafodd y boddi ar bobl De Cymru ar y pryd; dywed bod gorfodi pobl oddi ar fynydd Epynt wedi cael llawer mwy o effaith arnynt. Awgryma bod y Cymry, ar ol canrifoedd o frwydro yn erbyn y Saeson, yn rhy wan i sefyll eu tir erbyn y 1950/1960au. Roedd Streic y Glowyr yn dangos grym y llywodraeth a'i dylanwad ar y cyfryngau. O ran teledu, yr hyn sydd wedi cael yr effaith pennaf arni yw gweld cyrff y milwyr yn dychwelyd o Afghanistan - bellach nid rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yw rhyfel.

Mae 7 eitem yn y casgliad

  • 718
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 732
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,034
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 742
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 692
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 837
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 784
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
Adborth