Deborah Cooke

Gwylio 'eira' ar y teledu yw cof cyntaf y gwestai hwn, ond mae hefyd yn cofio am raglenni plant y 50au a gweld y lleuad yn gorchuddio'r haul yn cael ei ddarlledu ar y teledu. Sonia am ddylanwad y teledu, yn arbennig wrth ddarlledu trychinebau, gan ddweud bod y darlledu cyson yma wedi ein caledi dros amser. Mae'n son am deimlo'n chwithig iawn yngl?n a boddi Cwm Celyn ac yn cyfeirio at y gystadleuaeth rhwng y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach gyda phobl y naill gwm a'r llall yn jocian y dylid boddi'r cwm arall. Cofia am Arwisgiad y Tywysog Siarl - dathliad diystyr iddi. Gwyliai Rygbi ar y teledu'n gyson yn y 70au, ond roedd ennill mor bwysig nes, ar adegau, roedd yn rhy boenus i wylio'r sgrin. Sonia fel roedd pawb yn teimlo'n rhan o'r llwyddiant, a hynny mor bwysig i'r genedl. O ran S4C dywed fod yr orsaf wedi bod yn help mawr iddi ail-afael yn ei Chymraeg ond roedd yn ymwybodol bod nifer yn y cymoedd yn ddig taw S4C, yn hytrach na C4, yr oeddent yn ei dderbyn. Sonia am y newid enfawr rhwng 79 a 97 o ran cefnogaeth i Ddatganoli, gan ddweud taw effaith llywodraeth adain dde Margaret Thatcher oedd yn gyfrifol am hynny. Trafodir y trais a welwyd ar y teledu yn ystod Streic y Glowyr - ac effaith negyddol hynny ar gefnogaeth y cyhoedd i'r glowyr.

Mae 9 eitem yn y casgliad

  • 682
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 776
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 629
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 447
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 553
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 502
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 561
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 603
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 477
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi