Barbara Davies
Barbara Davies
Y Coroni, yr Arwisgiad ac Aberfan yw testun sgwrs y cyfwelai hwn. Mae'n cofio gwylio'r Coroni mewn neuadd bentref a'r ffaith bod hyn yn rhywbeth cymdeithasol prin yn fwynhad pur i blentyn oedd yn cael ei magu ar fferm anghysbell. Sonia am weld yr Arwisgiad - a'r delweddau sy'n aros yn ei chof erbyn hyn yw het y Frenhines a chadeiriau coch y gwesteion. Wrth drafod Aberfan mae'n son iddi weld y delweddau a codi ei phlentyn bach o'r crud a'i magu, gan deimlo y medrai ddianc gyda'r baban petai rywbeth tebyg yn bwrw ei chartref hi. Yn sgil teledu teimlai Aberfan mor agos er ei bod hi yn byw bryd hynny yn Sir Benfro.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment