Alun Clement
Gwylio rhaglen blant Bill a Ben yw cof cynharaf y gwestai hwn o deledu. Mae'n trafod effaith y teledu ar ei fywyd gyda rhaglenni o dramor wedi ei ysgogi i deithio'n helaeth. Trafodir Rygbi'r 70au - y profiad o wylio gydag eraill, effaith darlledu rygbi ar ferched a'r holl bethau eraill oedd yn ynghlwm a gemau rhyngwladol - y canu, yr emosiwn, yr ymdeimlad o Gymreictod. Wrth son am Aberfan mae'n trafod gwerth teledu ar y fath achlysur - yn caniatau i bobl weld yn union beth sydd wedi digwydd ac i gydymdeimlo. Mae'n siarad am Streic y Glowyr - effaith streiciau cynt ar y gymuned, yr hyn a arweiniodd at y streic 84/85, caledi byw drwy'r streic, cefnogaeth y cyfryngau, bore dychwelyd i'r gwaith ym mhwll y Maerdy ac ol-effaith y streic ar y gymuned.