Jeremy John
Mae'r cyfwelai hwn yn trafod effaith gwylio teledu gydag eraill a phwer y cyfryngau. Mae hefyd yn son am y Coroni a'r Arwisgiad ac yn cofio'r achos yn erbyn Caio Evans a'r Free Wales Army. O gofio gwylio Rygbi yn y 70au mae'n siarad am sylwebu Nigel Starmer-Smith ac yn credu bod darlledu rygbi wedi lleihau'r gwahaniaethau rhwng De a Gogledd Cymru. Trafodir hefyd Streic y Glowyr a'i brofiad fel heddwas, effaith streiciau yn gyffredinol, a'r atgasedd a fynegwyd tuag at Arthur Scargill.