Skip to main content

Emlyn Jenkins

Cofio Stanley Matthews a'i dim, Blackpool, yn ennill y Cwpan Pel-droed yw atgof cynharaf y gwestai hwn o deledu. Mae'n trafod ei hoffter o weld hiwmor ar y teledu ac er bod ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol mae'n casau rhaglenni gwleidyddol. Cofia am drasiedi Aberfan; iddo lefain o weld y lluniau. Doedd dim angen sylwebaeth - roedd y lluniau yn dweud y stori'n glir iawn. Y trais a welodd ar y teledu oedd yn ei boeni fwyaf am Streic y Glowyr; teimlai i'r glowyr gael eu pryfocio. Mae'n cyfeirio at y frwydr rhwng Scargill a Thatcher ac yn cwestiynu effeithlonrwydd streiciau yn gyffredinol. Creda bod Streic y Glowyr wedi cael effaith ar drefn ei gymuned am byth.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment