Hugh Morris
Ar y stryd yn Ystrad y gwyliodd y gwestai hwn y Coroni - gyda thwr o bobl eraill o flaen siop feics leol. Dywed ei fod yn teimlo bod y ffaith bod y lluniau a ddarlledwyd o Aberfan yn ddu a gwyn wedi ychwanegu at yr ymdeimlad o drasiedi; y lluniau oedd yn hoelio sylw, roedd bron dim angen sylwebaeth. Mae'n trafod hefyd effaith yr arian a gasglwyd i helpu pobl Aberfan. Sonia am y tripiau o'r cymoedd i weld gemau Rygbi rhyngwladol ac am effaith teledu ar y gem. Trafodir Streic y Glowyr ac effaith y camerau teledu ar ymddygiad pobl. Iddo ef y digwyddiadau mwyaf cofiadwy ar y teledu erioed oedd gweld lluniau o lofruddiaeth J F Kennedy a rhyddhau Nelson Mandela.