Skip to main content

Kenneth Williams

Teulu'r gwestai hwn oedd y cyntaf yn ei stryd i gael teledu; heddiw mae ganddo 7 set deledu yn ei gartref. Mae'n hel atgofion am wylio'r Coroni ac yn trafod sut mae'r ymdeimlad tuag at y teulu brenhinol wedi newid. Mae'n rhoi tipyn o'r cyfrifoldeb am hynny ar y teledu gan ddweud bod cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen deledu 'It's a Knockout' wedi gwneud niwed i ddelwedd y teulu brenhinol. Wrth drafod y darlledu o Aberfan mae'n cwestiynu tegwch holi pobl yn eu gofid. Roedd y gwestai hwn yn ddilynwr Rygbi brwd yn y 70au ac mae'n son am yr awyrgylch, y dorf ddeallus, campau Phil Bennett a Gareth Edwards ac ati. Mae'n trafod hefyd effaith darlledu rygbi ar y gymdeithas gan ddweud bod effaith ennill yn enfawr ar ysgogi timau ysgol, coleg a phentref. Trafodir Streic y Glowyr a phrofiad ewythr iddo a groesodd y llinell biced. Wrth son am Ddatganoli mae'n cofio teimlo'n sal ar noson cyhoeddi'r canlyniadau o weld bod yr ymgyrch 'Ie' yn mynd i ennill.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment