Simon Lloyd
Mae'r gwestai'n cofio gwylio'r Coroni yn ei gartref a chofia hefyd wylio seremoni'r Arwisgo gyda balchder, yn arbennig am fod ei dad yn bresennol yn y seremoni yng Nghaernarfon. Roedd y gwestai hwn yn rhan o'r ymdrech i achub y plant yn Aberfan ac yn teimlo er mor erchyll y digwyddiad ei fod wedi dod a phobl at ei gilydd. Wrth ateb ar Streic y Glowyr mae'n trafod yr heddlu gan honni ei bod, ar adegau, wedi pryfocio'r glowyr. Trafodir Datganoli a'i wrthwynebiad i'r cynllun ac mae'n cwestiynu dilysrwydd y canlyniad. Mynega ei ofnau am raniad y Deyrnas Unedig.