Alan Speake
Mae'r gwestai yma'n cofio parti stryd enfawr i ddathlu'r Coroni ac yn dweud fod pobl yn teimlo'n Brydeinig iawn yn y 50au. Erbyn yr Arwisgiad roedd pethau'n wahanol - mae'n cofio bod yn rhan o'r gweithlu yng Nghaernarfon ar y diwrnod a phrofi peth gwrthwynebiad i'r achlysur. Euogrwydd a deimla wrth gofio'n ol i'r darllediadau o Aberfan - teimlo y gallai'r gymuned a'r Llywodraeth fod wedi gwneud llawer mwy i helpu. O ran Streic y Glowyr mae'n son am y trais, rhan Scargill a Thatcher yn y frwydr a'r lleihad yn y parch tuag at yr NUM. Sonia am sut y newidiodd ei farn am Ddatganoli rhwng 79 a 97 a hynny yn sgil dysgu mwy am hanes Cymru a hynny yn bennaf o'r teledu. Mae'n trafod pwysigrwydd S4C i bobl nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment