Alan Latham
Gweld gem derfynol Cwpan Pel-droed 1953, sef gem gwpan Stanley Matthews, yw atgof cynharaf y cyfwelai o'r teledu. Mae'n trafod sut y daeth teledu a'r byd mawr i mewn i'w gartref mewn ardal wledig. Ei atgof pennaf am Aberfan yw'r emosiwn a gyflewyd gan Cliff Mitchelmore wrth ddarlledu o'r pentref a chiwiau o dadau yn aros i enwi cyrff eu plant. Yn sgil Streic y Glowyr roedd y gwahaniaeth enfawr rhwng ardaloedd gwledig a diwydiannol Sir Gaerfyrddin yn amlwg iawn iddo. O'r darlledu mae'n cofio'r trais a'r orymdaith yn ol i bwll y Maerdy ar ddiwedd y streic. Mae'n son am y cefndir i ddyfodiad S4C ac am ragoriaeth ei rhaglenni chwaraeon a hanesyddol a rol addysgiadol y sianel. Mae darllediad Arwisgiad y Tywysog Charles hefyd yn cael sylw ynghyd ag effaith clywed y gan 'God Bless the Prince of Wales'.