Richard Thomas
Sonia'r cyfwelai yma am fynd i dy cymydog i wylio teledu a rhestra'r rhaglenni 'roedd yn eu mwynhau. Trafodir sut mae mwy o ddewis sianeli wedi arwain at aelodau'r teulu yn gwylio ar wahan. Wrth son am y Coroni mae'n trafod hoffter pobl y cymoedd o'r Teulu Brenhinol a bod y Coroni wedi rhoi esgus prin iddynt ddathlu mewn cyfnod llwm yn dilyn y rhyfel. Wrth gyfeirio at Arwisgiad y Tywysog Charles yn 1969 mae'n cyfeirio eto at gefnogaeth Cymru i'r Frenhiniaeth. Mae'n trafod Aberfan a thirlun y cymoedd gan nodi sut roedd darllediadau teledu o'r digwyddiad wedi dod a chefnogaeth ariannol i'r pentref. Sonir hefyd am Streic y Glowyr, y brwydro, diffygion Scargill a'r Llywodraeth, a'r hiwmor a fodolai pan nad oedd y camerau yn rholio. Cyfeiria at ddirywiad y gymdeithas yng nghymoedd y De yn sgil cau'r pyllau glo.