Skip to main content

Cledwyn Davies

Gweld rhaglenni plant yw atgofion cynharaf y cyfwelai yma, yn arbennig Andy Pandy. Sonir am ei ryfeddod wrth weld hysbysebion am y tro cyntaf a'r ffaith bod yn berchen ar deledu yn uchelgais i lawer. Cofia wylio teledu tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth a'r argraff fawr a gafodd gweld dyn yn cerdded ar y lleuad; Rhyfel Irac a 9/11 arno. Sonia am gyfnod o geisio byw heb deledu, ond gorfod ildio a phrynu teledu gan ei fod yn colli gwylio chwaraeon. Cofia am Aberfan ac effaith y lluniau erchyll du a gwyn gan nodi bod darlledu trychinebau yn fwy syml o lawer bryd hynny. Cymherir y profiad o wylio rygbi ar y teledu a mynd i weld gemau. Sonir am streic y glowyr - y trais, y frwydr rhwng Scargill a Thatcher a'r annhegwch bod rhai o'r heddweision wedi elwa'n ariannol yn sgil streic a oedd mor galed ar y glowyr a'u teuluoedd. Trafodir y ddau refferendwm -ni thalodd lawer o sylw i refferendwm 79 ond erbyn 97, ac o dan ddylanwad teledu a Nerys Evans, roedd yn llawer mwy cefnogol.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment