Hawys Glyn James

Gweld yr Yeti yw atgof cynharaf y gwestai hwn o deledu. Prynodd deledu yn sgil diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae'n son am y radio anghyfreithlon Gymraeg a fyddai'n darlledu am gyfnod byr fin nos, ac am y noson yr ymwelodd y plismon lleol a'r ty tra oeddent yn darlledu o'r llofft ar y pryd. Trafodir Tryweryn a'i hatgof am y protestio yno. Mae son am drychineb Aberfan a sut mae teledu'n cyfleu emosiwn ac yn cofio'r lluniau erchyll o ddynion yn palu a'u dwylo. Yn sgil trafod Datganoli mae'n son am ei mis mel yn Llundain yn 1955, ei gwr wedi trefnu mis mel yno er mwyn cyflwyno deiseb i San Steffan i gefnogi mesur senedd i Gymru; cofia hefyd am gyffro gwylio canlyniadau 97. Mae'n trafod streiciau yn gyffredinol, rol merched yn Streic 84/85 a'r lluniau o'r glowyr yn dychwelyd i bwll y Maerdy.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 566
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 530
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 398
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 336
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 339
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 344
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi