Nan Lewis

Mae'r gwestai yma'n trafod sut mae teledu yn caledu pobl i drychinebau gan deimlo bod hyn wedi digwydd yn sgil Aberfan. Erys y lluniau o'r trychineb yn fyw yn ei chof a'r ymdeimlad o euogrwydd am beidio a mynd i'r pentref i geisio helpu. Mae'n cofio gwylio'r Coroni yn yr ysgol ac yn trafod y rhwyg a fu yn ei chapel yn sgil yr Arwisgo. Fe aeth hi a'i theulu i ffwrdd o'r pentref er mwyn osgoi'r dathlu a'r teledu. Son am rywun yn gosod Jac yr Undeb ar gartref ei brawd-yng-nghyfraith, Elfed Lewys, a oedd hefyd yn gwrthwynebu'r Arwisgo. Mae'n trafod Streic y Glowyr, rol yr heddlu yn y gwrthdaro a diffyg cydymdeimlad pobl ardal Dyffryn Tywi i achos y streicwyr.

Mae 5 eitem yn y casgliad

  • 368
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 577
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 578
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 373
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi