Yvonne Francis
Ar gyfer gwylio priodas y Dywysoges Margaret y cafodd teulu'r cyfwelai yma deledu yn y cartref. Er y teimla bod yna wrthdaro rhwng Cymreictod a Phrydeindod yn sgil seremoniau fel yr Arwisgiad mae'n cydnabod bod darlledu'r fath achlysuron yn dod a lliw i fywyd pobl. Yn sgil Aberfan mae'n trafod y syniad bod gweld trychinebau ar y teledu yn ein gwneud yn blase i ddioddefiadau pobl a bod teledu hefyd yn ein cyflyru i ddisgwyl bod popeth yn gyffrous. Mae'n son am brotestio adeg yr Arwisgiad a Thryweryn a sut mae adwaith cymdeithas i brotest a thor-cyfraith wedi newid, gydag aelodau CYIG a welwyd cynt fel dihirod bron, bellach yn arwyr. Trafodir y ddau Refferendwm ar Ddatganoli; siom 79 a gwefr 97.