Gwyn Evans
Mae darlledu Rygbi yn uno'r genedl ym marn y cyfwelai hwn sy'n son am wylio gemau ar y teledu yn ei glwb rygbi lleol. Trafodir Aberfan hefyd, y delweddau sy'n aros yn y cof ac ymddangosiad yr Arglwydd Robens. Wrth gyfeirio at Dryweryn mae'n cofio hefyd am ymgais i foddi Cwm Senni, yn trafod pa mor ddiymadferth roedd pobl Tryweryn i geisio amddiffyn eu tir, ac effaith Tryweryn ar Gymreictod. Cofia am gyffro noson Refferendwm Datganoli 97 a datganiad Ron Davies. Wrth drafod Streic y Glowyr mae'n son am rai aelodau o'r heddlu yn elwa o'r streic ac effaith cau'r pyllau glo ar y Rhondda.