Skip to main content

Felix Aubel

Cwmpas y cyfweliad hwn yw Streic y Glowyr, Datganoli, Rygbi ac S4C. Trafodir y trais a welwyd ar y teledu yn ystod Streic y Glowyr a'r digwyddiad a drodd canran uchel o gymdeithas yn erbyn y streicwyr. Mae hefyd yn trafod yn y cyd-destun hwn gyfraniadau Thatcher, McGregor a Scargill a'u portread ar raglen Spitting Image. Wrth drafod Datganoli 79 mae'n cyfeirio at y rhwyg o fewn y Blaid Lafur ac yn son am Ddatganoli 97 a'i ran yn yr ymgyrchu. Trafodir hefyd effaith marwolaeth y Dywysoges Diana ar y bleidlais a noson darlledu'r canlyniadau ar S4C. Traetha hefyd ar Rygbi a chyfraniad Bill McLaren i'r darlledu, effaith colli gem ar y gymdeithas, ac effaith darlledu rygbi ar y gymuned ac ar genedligrwydd. O ystyried S4C mae'n son am y pryder ar y cychwyn y byddai'r sianel yn rhy academaidd ond erbyn hyn mae'n cydnabod bod ei fywyd personol, ar adegau, yn cael ei drefnu o amgylch y rhaglenni. Sonia ynglyn a sut y mae teledu yn effeithio ar unffurfiaeth iaith ac ar yr ymdeimlad o fod yn genedl.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment