Cyril Llewelyn
Sonir yn y cyfweliad yma am bwer teledu; dywed y cyfwelai ei fod yn anodd anwybyddu, er enghraifft, apel am arian i helpu'r gwledydd sy'n datblygu. Mae'n son am effaith teledu ar gymdeithas a'i brofiad o hynny fel pregethwr gydag un person yn ei siarsio i beidio pregethu yn rhy hir am ei bod hi am fynd adref i weld y Forsyte Saga. Mae hefyd yn trafod Aberfan a'i deimladau at berchnogion y pyllau glo. Wrth son am yr ymgyrch dros ac yn erbyn Datganoli yn 97 mae'n dweud fod teledu'n bwydo pobl a'r dadleuon ond bod llywodraeth y dydd, yn sgil teledu, yn aml yn defnyddio digwyddiadau i ddylanwadu ar sut mae pobl yn pleidleisio. Trafodir Streic y Glowyr - teyrngarwch y glowyr i'r undeb ac i'w cyd-weithwyr, a theyrngarwch y gymdeithas yng Nghwm Rhondda i'r glowyr.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment