Cennard Davies
Y Coroni, Streic y Glowyr, Refferendwm 97 a Rygbi'r 70au yw'r pynciau trafod yn y cyfweliad hwn. Wrth gofio'r Coroni mae'r cyfwelai hefyd yn son am y parti stryd - esgus i ddathlu ac i rannu danteithion mewn cyfnod caled. Wrth son am Streic y Glowyr yn 84/85 mae'n trafod defnydd Margaret Thatcher o'r cyfryngau, y gwahaniaeth rhwng ymdriniaeth cyfryngau Lloegr a chyfryngau Cymru o'r sefyllfa a'r ddelwedd sy'n aros gydag ef - sef y glowyr yn mynd yn ol i'w gwaith ym mhwll y Maerdy. Mae'n hel atgofion am noson darlledu canlyniadau Refferendwm Datganoli 97, gyda'r siom yn troi'n orfoledd, ac effaith y bleidlais hon ar yr etholiadau a'i dilynodd. Wrth drafod Rygbi honna fod pawb eisiau chwarae fel y Cymry yn y 70au ac mae'n son am effaith enfawr ennill neu golli ar y gweithle ddydd Llun ar ol gem.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment