Tweli Griffiths
Mae'r cyfwelai hwn yn trafod llwyddiant teledu wrth gyfleu trychinebau fel Aberfan pan fo'r darlledu yn fwy real heb ormod o sglein golygu gofalus arno. Trafodir y ddau Refferendwm ar Ddatganoli a sut mae teledu yn medru effeithio ar y bleidlais. Mae hefyd yn trafod effaith darlledu digwyddiadau Brenhinol neu Brydeinig. O ran Streic y Glowyr mae'n son am fethiant teledu i gyfleu gwir oblygiadau cau'r pyllau a hefyd yn cyfeirio at ddiffyg cefnogaeth i'r glowyr y tu allan i'r cymoedd glofaol. Trafodir S4C a rol y Ceidwadwyr yn y pen draw wrth iddynt sicrhau'r sianel i Gymru ac yna ei chryfhau.