Dewi Evans

Yn y 60au y daeth teledu i gartref y cyfwelai yma gan mai bryd hynny y cafwyd trydan yn y pentref. Noda taw rhai o'r pethau mwyaf cofiadwy iddo i'w gweld oedd dyn yn glanio ar y lleuad, 9/11, rhaglenni Morecombe and Wise a darlledu canlyniadau etholiadau. Mae'n trafod Aberfan a'i deimlad fod Cymru yn fwy plwyfol cyn dyfodiad y Cynulliad. Sonir am y gwarth nad oedd yr NCB wedi ei herlyn yn sgil y trychineb a chasgla fod hynny oherwydd cysylltiad y diwydiant a Llywodraeth Lafur y cyfnod. Teimla nad oedd pobl yr ardal wedi cael arweiniad digonol a'i bod hefyd yn llai ymosodol yn sgil canrif o frwydro yn erbyn eu meistri. Mae hefyd yn trafod Streic y Glowyr a'i farn fod y glowyr yn cael eu portreadu mewn ffordd annheg yn y cyfryngau a chyfeiria at agenda'r Toriaid i ddinistrio grym yr undebau. Trafodir hefyd Arwisgo'r Tywysog Charles a dechreuad y mudiad protest. Mae'n trafod y Refferendwm ar Ddatganoli yn 97 ac yn gresynu at mor arwynebol mae'r cyfryngau yn eu hymwneud a gwleidyddiaeth.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 896
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 682
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 561
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 568
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi