Arthur Morgan
Cof plentyn o weld teledu am y tro cyntaf a chredu bod cymeriadau yn byw yn y set deledu sydd gan y cyfwelai yma. Mae'n cofio hefyd y rhyfeddod o weld Llundain yn sgil darlledu'r Coroni a'i falchder o gael bod yn rhan o rywbeth mor bwysig. Balchder hefyd oedd y prif deimlad o wylio Arwisgiad y Tywysog Charles er ei fod yn ymwybodol, yn sgil teledu, o wrthwynebiad rhai i'r digwyddiad. Mae'n trafod yr effaith mawr a gafodd gweld darllediadau o drychineb Aberfan arno a'r ffaith bod teledu yn dod a digwyddiadau o'r fath i mewn i'r cartref. Cyfeiria hefyd at ei ddirmyg at y Bwrdd Glo yn sgil yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan, ac ar nodyn mwy positif am gefnogaeth pobl ardal Caerfyrddin i drigolion Aberfan.