Skip to main content

Bryan Thomas

Gweld arth wen yw atgof cyntaf o deledu'r cyfwelai yma a hefyd gêm rygbi ar ddiwedd y 40au/dechrau’r 50au.  Cofir am Aberfan a’r delweddau ofnadwy, yn enwedig y cyrff bach yn cael eu cludo allan o’r ysgol.  Trafodir y ddau refferendwm ar ddatganoli a chyfeirir at wrthwynebiad chwyrn Leo Abse yn 79; sonia am y  mwynhad o wylio canlyniadau 97 ac mae’n honni bod canlyniad Caerfyrddin wedi ei gadw’n ôl yn fwriadol er mwyn cynyddu’r cyffro. Cyfeiria at y wefr o weld pobl o bob plaid yn rhannu llwyfan yn sgil y canlyniad.  O’r holl bethau a welodd ar y teledu, y digwyddiadau sydd wedi gadael yr argraff bennaf arno yw adroddiadau ar y Clwy Traed a’r Genau 1968; 9/11; rhyddhau Mandela ac angladd Churchill.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment