Gweithwyr Francis Crawshay
Yn y portreadau bychan yma mae un ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ), diwydiannwr o'i anfodd fyddai'n meithrin perthynas bersonol agos â'i weithwyr, peth anarferol yn y cyfnod. Ym 1819 prynodd ei dad – y diwydiannwr mawr William Crawshay II – weithfeydd Dur Hirwaun, ac erbyn canol y 1830au roedd Francis yn eu rheoli, ynghyd â gweithfeydd tunplat y teulu yn Nhrefforest, ger Pontypridd, oedd newydd eu ehangu.
Mae'r grŵp yn gasgliad o grefftwyr, gweithwyr anfedrus a rheolwyr – pob un yn sefyll yn eu dillad gwaith, gyda'u hoffer gwaith, a thirlun yn gefndir. Er y byddai unigolion cyfoethog weithiau'n comisiynu portreadau o'u gweision tŷ, dyma'r unig ddelweddau hysbys o weithwyr diwydiannol.
Credir taw'r artist oedd William Jones Chapman (tua 1808 – wedi 1871), paentiwr portreadau a hela teithiol oedd yn gweithio'n bennaf yng Nghymru a siroedd y gororau. Cafodd y grŵp ei gadw yn y teulu Crawshay dros y cenedlaethau, ac efallai bod y casgliad gwreiddiol yn fwy fyth.
Priodolir i William Jones Chapman (c.1808 – wedi 1871), un portread ar bymtheg o weithwyr Francis Crawshay (1811-1878 ) yng ngweithfeydd Dur Hirwaun a gweithfeydd Tunplat Trefforest, tua 1835-40.
Rhoddwyd i Amgueddfa Cymru gan Sylvia Crawshay ym 2012.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment