Gwaith Menywod
gan A. S. Hartrick (1864-1950)
Mae’r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i’r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â’r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo’r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a’r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai’n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono’n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a’u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a’r lle, ac mae llawer o’r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a’u hosgo – yn lluniau ‘gwneud’. Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o’r caledi a’r peryglon a wynebai’r menywod o ddydd i ddydd.
Ganwyd yr artist a’r darlunydd Hartrick yn India a’i fagu yn yr Alban cyn mynd ati’n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi’r gyfrol ganllaw Lithography As A Fine Artym 1932.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment