Ffermdy Cilewent
Ffermdy Cilewent
TÅ· ffrâm nenffyrch a phren a godwyd fel neuadd agored tua 1470. Cafodd y waliau coed gwreiddiol eu hailgodi mewn carreg ym 1734 ac fe gerfiwyd y dyddiad ar ffrâm y drws allanol. Y cyfan sydd ar ôl o'r tÅ· gwreiddiol yw'r ddwy nenfforch yn y beudy a phalis ffrâm bren rhwng y beudy a'r tÅ·. 'TÅ· hir' yw hwn. Byddai'r gwartheg yn byw yn un pen a'r teulu yn y pen arall a byddai cyntedd cyffredin rhwng y ddwy ran. Roedd y math hwn o ffermdy yn gyffredin yn ne a chanolbarth Cymru ar un adeg. Yn ogystal â deuddeg o wartheg, roedd lle yno i gadw ceffylau a thaflod uwchben i gadw gwair.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment