Castell Caerffili
Castell Caerffili yw'r castell mwyaf yng Nghymru ac mae'n dominyddu'r dref. Adeiladwyd gan Gilbert de Clare i amddiffyn rhag ei elyn Llywelyn ap Gruffydd. Adferwyd y castell gan deulu Bute yn ystod y 19eg ganrif wedi iddo ddechrau adfeilio.