Taith y Gwehydd
Daeth ffatrïoedd y diwydiant gwlân â ffordd newydd o fyw i bobl Dre-fach Felindre. Mae'r cyfnod yma yn cael ei adnabod fel oes aur y diwydiant gwlan sef diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif. Daeth oes yr offer llaw i ben gyda dyfodiad y peiriannau mawr. Symudodd pobl eraill i'r pentref i chwilio am waith a dechreuodd Dre-fach Felindre dyfu. Mae'r lle wedi llewyrchu byth ers hynny, ac mae'r gymuned yn gweithio'n galed i wneud yn siŵr bod hynny'n parhau.
Ar y daith heddiw byddaf yn datgelu rhai o gyfrinachau cudd ein tirlun hanesyddol.
Cyn i chi ddechrau — Mae'r daith yma yn cymryd i fyny at 3/4 awr gan ddod a chi nôl at yr Amgueddfa. Nid yw yn addas ar gyfer cadair olwyn na phram. Mae'r llwybr yn serth yn un man ac yn fwdlyd ar adegau. Dylid gwisgo dillad ac esgidiau addas.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment