Casgliad Amgueddfa Glofa Cefn Coed

Detholiad o ffotograffau, effemera a hanesion llafar o gasgliad Amgueddfa Glofa Cefn Coed.
Daeth Glofa Cefn Coed yn weithredol ym 1930 ar ôl i sawl ymgais flaenorol i suddo siafft ar y safle fethu oherwydd bod y tywodfaen Glas Pennant anhreiddiadwy yn atal mynediad i'r wythïen lo gyfoethog oddi tani.
Erbyn i lo gael ei godi, hwn oedd y pwll glo (glo caled) tyfnaf yn y byd. Gweithiwyd pum gwythien lo ar wahanol adegau a'r tyfnaf oedd y wythïen “paun” bron i hanner milltir i lawr.
Daeth llawer o broblemau a pheryglon yn sgil gweithio mor ddwfn. Roedd cael nwy methan yn cronni, cwympiadau to a damweiniau eraill yn gyffredin yn ystod y blynyddoedd cynnar a chyn bo hir enillodd y pwll y llysenw “Y Lladd-dy.”
Bu'r Lofa yn ffyniannus am nifer o flynyddoedd hyd nes i'r gost gynyddol o gadw ffyrdd ar agor ar lefel mor ddwfn gael effaith drychinebus. Caeodd y pwll ym 1968 a throsglwyddwyd llawer o'r gweithlu i fwynglawdd drifft Blaenant cyfagos; agorodd y mwynglawdd hwn ym 1963, gan dynnu'r dram olaf o lo i fyny ym mis Mai 1990.

Mae 12 eitem yn y casgliad

  • 1,557
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 905
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi