Ieithoedd yr oesoedd canol
Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.
Recordiwyd y naw darn yma yn 2007 gan Dr Mark Redknap. Ailgreadau modern ydynt o leisiau coll yr oesoedd canol. Dangosant gymaint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau hyn, a chawn ddysgu hefyd am feddyliau, agweddau a gweithredoedd y bobl piau'r geiriau.
Am rhagor o wybodaeth am y gyfnodau, darllenwch y storiau yma:
For more information on the periods, see these stories:
- Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au)
- Lleisiau o'r Oesoedd Canol (OC 1070au - 1500au)
Y testyn gan Mark Redknap
Lleisiau ar y recordiadau: Peter Wynn Thomas, Diarmait Mac Giolla Chríost, John Hines, the late David Trotter, Lauran Toorians