Tafodieithoedd y Gymraeg
Casgliad o recordiadau sain yn arddangos amrywiaeth tafodieithol y Gymraeg, ynghyd a mapiau o ddosbarthiad daearyddol rhai nodweddion tafodieithol. Daw'r recordiadau o archifau sain yr Amgueddfa Werin ac Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sefydliadau a fu'n casglu a chofnodi defnyddiau llafar ers y 1950au.