Cymraeg

Y Gymraeg oedd un o'r ieithoedd cyntaf i gael ei bygwth gan ledaeniad Saesneg ar draws y byd. Mae'n wyrth ei bod hi wedi goroesi o gwbwl. Dim ond un o bob pump o boblogaeth Cymru sy'n siarad yr iaith. Ar wahân i ambell i blentyn ifanc iawn, gall pawb sy'n siarad Cymraeg siarad Saesneg hefyd.
Ac eto, o safbwynt ieithoedd dan fygythiad, llwyddiant yw'r Gymraeg. Dangosodd cyfrifiad 2001 fod nifer a chanran y Cymry Cymraeg yn cynyddu am y tro cyntaf ers dros ganrif. Ym 1991 roedd 508,000 o bobl, neu 18.7% o'r boblogaeth, yn medru Cymraeg. Erbyn 2001, roedd y nifer wedi cynyddu i 582,000, sef 20.8% o'r boblogaeth.
Mae cyferbyniadau diddorol yn y data: nid yr ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf o Gymry Cymraeg yw'r ardaloedd lle mae'r niferoedd uchaf yn byw. Mae mwy o Gymraeg i'w chlywed yn y gorllewin nag yn nwyrain Cymru. Yng Ngwynedd, mae cymaint â 69% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg, ond 11% yn unig sy'n medru'r iaith yng Nghaerdydd. Ac eto mae mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn y trefi a'r dinasoedd nag sydd yng nghefn gwlad, a mwy o siaradwyr Cymraeg yn y de nag sydd yn y gogledd. Tua 78,000 o Gymry Cymraeg sy'n byw yng Ngwynedd, er enghraifft, sy'n llai na'r nifer yn sir Gaerfyrddin lle mae 50% o'r boblogaeth yn unig yn medru Cymraeg. Tra bu cynnydd calonogol yng nghanran siaradwyr yr iaith mewn ardaloedd Seisnigedig fel Caerdydd, gostwng wnaeth nifer yr ardaloedd lle mae dros 80% o'r trigolion yn medru Cymraeg.
Y ffactorau mwyaf allweddol o safbwynt cynyddu'r nifer sy'n medru'r Gymraeg yw llwyddiant ysgolion Cymraeg a'r cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith. Dyma'r trydydd cyfrifiad i ddangos cynnydd yn y nifer o bobl ifainc sy'n medru'r iaith. Roedd 26% o'r boblogaeth dan 35 oed yn medru Cymraeg - 9% yn fwy nag oedd ym 1991.
Nid yng Nghymru yn unig mae pobl yn siarad Cymraeg. Yn ôl arolygon a gomisiynwyd gan S4C, mae dros 200,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn Lloegr.
Yn y Wladfa yn ardal Chubut ym Mhatagonia mae tua mil neu ragor o ddisgynyddion ymfudwyr o Gymru yn dal i fedru'r Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.
Gwrandewch ar Gwil Pritchard o Gaernarfon, Gwynedd yn sôn am ei gefndir ieithyddol a'r gwahaniaethau rhwng iaith Caernarfon a iaith Bangor.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 1,387
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 996
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,240
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi