George ac Elsie Porter - Gwasanaeth Cenedlaethol a rheolaidd Byddin Prydain 1961-62
Mae'r casgliad hwn yn ymwneud â Mr a Mrs George ac Elsie Porter o Giliau Aeron, Ceredigion. Roedd George, Milwr Cenedlaethol, yn gwasanaethu gyda'r Royal Army Service Corps yn y DU ddechrau'r 1960au, pan gyfarfu ag Elsie, a oedd yn gwasanaethu gyda'r Women's Royal Army Corps. Dechreuodd y cwpl berthynas a gryfhaodd, er gwaethaf postiad Eslie i BAOR yr Almaen yn eu cadw ar wahân am fisoedd lawer. Yn y pen draw, priododd y cwpl a dechrau teulu, gydag Elsie yn gadael y Fyddin ychydig cyn George. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfweliad ffilm gydag Elsie a George, gartref, flynyddoedd lawer ar ôl eu cyfarfod cyntaf mewn canolfan Fyddin yn ne Lloegr.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment