Arddangosiad Hobïau, Clwb Rotari y Barri
Wedi'i sefydlu yn 1937 fel sefydliad i ddynion yn unig, mae Clwb Rotari'r Barri wedi chwarae rhan weithredol ym mywyd cymunedol yr ardal dros y blynyddoedd. Grŵpiau yw Clybiau Rotari sy’n gweithio er budd eu cymunedau leol ac ar gyfer achosion rhyngwladol, er enghraifft trwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd codi arian. Sefydlwyd y clwb rotari cyntaf yn Chicago yn 1905, gyda'r enw'n cyfeirio at sut roedd y man cyfarfod yn cylchdroi rhwng yr aelodau. Heddiw, mae Clwb Rotari’r Barri wedi’i leoli yng Nghlwb Golff Saint Andrews yn y dref. Yn 2009, ymunodd y fenyw gyntaf â grŵp y Barri, ac heddiw mae'n parhau i fod yn sefydliad bywiog.