Ymweliadau Brenhinol
Mae Bro Morgannwg, yn cynnwys dref y Barri, wedi gweld llawer o ymweliadau brenhinol dros amser. Mae ffotograffau yn y casgliad hwn yn dangos Brenin Sior VI a oedd yn Dug Efrog ar y pryd yn ymweld â’r Barri heb ei dyddio. Hefyd, bu ffotograff Duges Efrog a’r Dywysoges Elisabeth, a death yn Brenhines Elisabeth II o 1944. Yn cyfnod yr Ail Rhyfel Byd, roedd ymweliadau fel hyn yn rhan bwysig o godi teimlad y genedl ar y pryd.
Gwelir hefyd ffotograffau o ymweliadau brenhinol yn yr 1970au, gyda’r Dug Caeredin yn ymweld â Barry ar 11eg Rhagfyr yn 1972 neu 1973. Cwrddodd y dug â maer y dref ac urddasolion yn Neuadd y Dref. I ddathlu ei Jiwbili Arian, fe ymwelodd Brenhiness Elizabeth II a’r Dug Caeredin â Barry ar 23ain o Fehefin 1977. Gyda James Callaghan (Prif Weinidog Prydain rhwng 1976 a 1979), aethon nhw i’r dociau i gwrdd â’r torfeydd cyn mynd ar long. Ymwelodd y Tywysog Charles Swyddfa’r Dociau y Barri yn yr 1970s hefyd, yn ystod ei amser ar HMS Bonington. Wrth gwrdd ag urddasolion, wnaeth y tywysog gwrdd â Darwin Hinds, Maer Du cyntaf y Barri.