Broad Street, Y Barri
Wrth i boblogaeth y Barri dyfu a datblygu i fod yn dref ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd siopau a chartrefi ar gyfer y gymuned oedd yn ehangu. Yn rhan orllewinol y Barri, roedd hyn yn cynnwys datblygu Broad Street. Roedd y stryd yn cynnwys siopau, cartrefi, eglwys y Priordy, Gwesty'r Barri a'r Sinema 'Old Romilly Hall'.