Profiadau gyda'r Urdd
Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu ym 1922 er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw, mae dros 50,000 o bobl ifanc yn aelodau o'r Urdd, ac mae'r Eisteddfod flynyddol yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.
Mae’r Urdd wedi ffurfio rhan fawr o atgofion plant ledled y wlad, boed hynny yn yr Eisteddfod, yn un o'r gwersyllai, digwyddiadau chwaraeon neu atgofion o gael hwyl gyda’ch ffrindiau. Mae’r ffotograffau hyn yn rhoi cipolwg ar y cyfoeth o brofiadau y mae’r Urdd wedi’u rhoi i ieuenctid Cymru, ddoe a heddiw.
Rydym yn casglu straeon a ffotograffau sy'n dathlu holl weithgareddau'r Urdd o'r gorffennol i'r presennol er mwyn i ni, ein cenhedlaeth bresennol, ac i roi cyfle i genedlaethau’r dyfodol weld beth roedd eu rhieni, eu neiniau a’u teidiau, neu hyd yn oed hen-neiniau a hen-deidiau yn ei wneud yn ystod eu hamser gyda’r Urdd. Anfonwch eich ffotograffau a'ch straeon atom naill ai drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu uwchlwythwch eich cynnwys i'n gwefan heddiw.