Eleanor Gwynn (Nell Gwynn)

Honnir mai actores o dras Gymreig (ar ochr ei mam) oedd Nell Gwyn ac un o’r merched cyntaf i wneud enw iddi’i hun ar lwyfannau theatrau Llundain yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Yn ôl traddodiad, cefndir tlodaidd iawn oedd gan Nell ac mae’n debyg y byddai hi a’i chwaer yn gwerthu orennau yn Drury lane yn Llundain cyn iddi lwyddo i wneud enw iddi’i hun fel actores. Ond daeth hefyd yn adnabyddus fel un o feistresi’r Brenin Siarl II a ganwyd dau blentyn gordderch iddynt. Er i Siarl gael sawl meistres dros y blynyddoedd yn ogystal â gwraig, na lwyddodd i roi etifedd iddo, mae’n debyg mai ei eiriau olaf ar ei wely angau oedd: ‘Don’t let poor Nell starve’.

Roedd hi’n arfer cyffredin iawn i actoresau o’r cyfnod ddod yn feistresi i’r bonheddwyr oedd yn dod i’w gweld yn perfformio, ond yn wahanol i nifer o ferched eraill, mae’n debyg bod Nell wedi dychwelyd i’r llwyfan ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Byrhoedlog fu ei gyrfa fel actores fodd bynnag a thybir iddi farw’n gymharol ifanc ym mis Tachweddd 1687. Mae peth amryfusedd ynghylch union ddyddiad ei geni, gyda rhai yn mynnu mai yn 1650 y ganed hi – ac eraill yn tybio iddi gael ei geni cyn hynny, yn 1642, yn seiliedig ar ei hymddangosiadau cyntaf ar lwyfan.

Dros y blynyddoedd ymdangosodd sawl cyfrol, drama a ffilm yn seiliedig ar hanes ei bywyd lliwgar.

Daw’r delweddau hyn o gasgliad portreadau’r Llyfrgell Genedlaethol

Mae 2 eitem yn y casgliad

  • 160
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 326
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi