I ffwrdd â ni yn y Siarabang!
Casgliad hyfryd o Siarabangs, y coetshys agored cynnar a oedd yn gyffredin ar ddechrau'r 20fedG. Fe'u defnyddid yn bennaf ar gyfer tripiau a gwibdeithiau - ond pur anaml y gwelid un ar ein ffyrdd wedi diwedd yr 1920au. Efallai na fu oes hir i'r cerbydau hyn, ond mae'n edrych yn debyg eu bod wedi gwneud llawer o bobl yn hapus.